Y BBC

BBC

Ffilmiwyd y chwe phrosiect Pentref SOS cyntaf gan y BBC ar gyfer cyfres o raglenni dogfen i’w darlledu ar BBC One yn ystod oriau brig, yn cychwyn ar 10 Awst 2011.

Mae’r gyfres Pentref SOS hon yn dilyn y metrau newydd o gychwyn y busnes i fasnachu a bydd yn cael ei chefnogi gan ymgyrch BBC Learning fawr i hybu mentrau gwledig ledled y DU.

Bydd BBC Learning yn cynnwys 10 ffilm ar-lein fer yn dangos yr holl bentrefi a dderbyniodd grantiau gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae’r ffilmiau pedair munud o hyd yn cynnig cipolwg ar y problemau a wynebwyd gan bob un o’r pentrefi a sut yr aethant ati i fynd i’r afael â nhw. Bydd ffilm ar gael hefyd yn dangos 10 darn o gyngor da gan Sarah Beeny ar gyfer sefydlu menter gymdeithasol, yn ogystal â nifer o bethau i’w lawrlwytho, gan gynnwys syniadau a chyngor i’r rhai sydd am gymryd mwy o ran yn eu cymunedau.

Y BBC yw’r mudiad darlledu mwyaf yn y byd. Ei genhadaeth yw cyfoethogi bywydau pobl â rhaglenni sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.

Mae’n ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus, a sefydlwyd gan Siarter Brenhinol ac a ariennir gan ffi’r drwydded a delir gan gartrefi’r DU.

Mae’r BBC yn defnyddio’r incwm o ffi’r drwydded i ddarparu gwasanaethau sy’n cynnwys wyth sianel deledu genedlaethol yn ogystal â rhaglenni rhanbarthol, 10 gorsaf radio genedlaethol, 40 gorsaf radio leol a gwefan eang.

Mae BBC World Service yn darlledu i’r byd ar y radio, ar y teledu ac ar-lein, gan ddarparu newyddion a gwybodaeth mewn 32 o ieithoedd. Fe’i hariennir gan grant llywodraethol, nid gan ffi’r drwydded.

Mae gan y BBC gangen fasnachol hefyd, sef BBC Worldwide. Caiff ei elw ei ddychwelyd i’r BBC i’w fuddsoddi mewn rhaglenni a gwasanaethau newydd.