Pecyn Cymorth
Rydym wedi datblygu amrywiaeth o becynnau, templedi a rhoddion sy’n cynnwys brand Pentref SOS i’ch cynorthwyo i hyrwyddo eich menter gymunedol ac ennill cefnogaeth leol.
Ceir cyfres o bosteri, pob un â thema i gyd-fynd â’ch math o fenter; templed cylchlythyr i roi’r newyddion diweddaraf i’ch cymuned; holiadur sampl i fesur cefnogaeth leol ac i fireinio eich syniadau, templed cynllun busnes, a chyfres o graffigwaith yn dangos brand Pentref SOS ar gyfer eich gwefan, eich iPhone neu eich gwefannau cyfryngau cymdeithasol.
Hefyd, mae gennym amrywiaeth o ddogfennau ac adnoddau ychwanegol a fydd yn eich cynorthwyo i gynllunio a sefydlu eich busnes.
Pecyn cymorth y BBC
Ac mae gan y BBC amrywiaeth o adnoddau yn ei becyn cymorth a fydd ar ei wefan tra bydd y gyfres yn cael ei darlledu.