Pentref SOS Actif
Mae ceisiadau am ariannu Pentref SOS wedi ailgychwyn. Bydd Pentref SOS Actif yn dyfarnu grantiau rhwng £10,000 a £50,000 (gan gynnwys TAW) ar gyfer mentrau cymunedol gwirioneddol fentrau a gwreiddiol. Felly, os ydych yn byw mewn pentref gwledig neu dref fach wledig sydd â phoblogaeth o 3,000 ar y mwyaf, darllenwch ymlaen.
Ar ôl canfasio eich barn mewn arolwg cynhwysfawr, rydym wedi gwneud nifer o newidiadau o'r broses ymgeisio a meini prawf cymhwyster blaenorol. Gofalwch eich bod wedi darllen yr wybodaeth isod yn ofalus cyn gwirio p'un a yw eich lleoliad yn gymwys ai beidio.
Faint sydd ar gael?
- Gallwch ofyn am swm rhwng £10,000 a £50,000 (gan gynnwys TAW).
- Gallwn dalu am eich holl gostau neu rai ohonynt ar gyfer blwyddyn gyntaf eich menter, ond ni allwn gyfrannu ariannu tuag at brosiectau a fydd yn costio mwy na £100,000 (gan gynnwys TAW).
Ydych chi'n gymwys?
Byddwn yn ariannu prosiectau mewn cymunedau sydd â phoblogaeth o 3,000 neu lai. Mae'n rhaid i'r mudiad sy'n cyflwyno'r cais i ni fod yn lleol i'r gymuned a byddwn yn ariannu:
- grwpiau neu fudiadau gwirfoddol a chymunedol megis elusennau, pwyllgorau pentref, cymdeithasau, ymddiriedolaethau, cydweithfeydd neu fentrau cymdeithasol
- cynghorau plwyf, tref neu gymuned, cyhyd â bod trigolion lleol wedi llunio'r prosiect yn glir.
Beth arall y mae angen i mi ei wybod?
- Byddwn yn ystyried un cais yn unig gan bob mudiad.
- Ni ddylai pentrefi na mudiadau sydd eisoes wedi derbyn ariannu gan y rhaglen Pentref SOS ymgeisio i'r rownd ariannu hon.
- Os byddwn yn dyfarnu grant i chi, mae'n rhaid i chi wario'r arian ac agor eich menter gymunedol o fewn blwyddyn.
- Os yw eich prosiect yn cynnwys gwaith ar dir neu adeilad mae'n rhaid eich bod yn berchen ar y rhydd-ddaliad (perchnogaeth etifeddadwy yn Yr Alban) neu fod gennych brydles pum mlynedd o leiaf cyn i chi anfon eich cais atom.
Beth i'w wneud nesaf
- Cwestiynau? Darllenwch ein cwestiynau cyffredin
- Mwy o wybodaeth am fentrau cymunedol
- Cael gwybod p'un a yw eich lleoliad a mudiad yn gymwys i ymgeisio
- Bydd modd i chi lawrlwytho ffurflen ymgeisio dim ond os ydych wedi cofrestru ar y wefan, gwirio eich lleoliad a chwblhau'r holiadur
Enter your postcode:
Os byddwch yn profi anawsterau, gyrrwch e-bost atom yn active@villagesos.org.uk neu ffoniwch ein llinell gymorth ar 0845 434 9123.