Holi Pentref SOS
Holi Pentref SOS
Os na allwch ddod o hyd i’r ateb y mae ei angen arnoch isod, Llinell Gymorth Pentref SOS yw’r lle i fynd gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am sefydlu neu redeg busnes cymunedol yn y DU. I gael arweiniad arbenigol am ddim ffoniwch 0845 434 9123 neu anfonwch e-bost i advice@villagesos.org.uk
Ynglŷn â Phentref SOS
Beth yw Pentref SOS?
Mae Pentref SOS yn fenter ar y cyd rhwng y Gronfa Loteri Fawr a'r BBC i helpu chwe phentref gwledig ar draws y DU i adfywio eu cymunedau drwy fentrau cymunedol newydd. Ei nod yw ysbrydoli pobl mewn pentrefi gwledig - y mae llawer ohonynt wedi'u bwrw'n drwm trwy golli amwynderau lleol a'r dirwasgiad - i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
Beth yw Pentref SOS Actif?
Ochr yn ochr â'r gyfres Village SOS ar BBC One, bydd y Gronfa Loteri Fawr yn lansio Pentref SOS Actif, ymgyrch ddysgu ar draws y DU i gynnig adnoddau i bobl a chymunedau sydd wedi'u hysbrydoli gan y gyfres. Rydym eisiau defnyddio'r pentrefi sy'n ymddangos yn Village SOS i ysbrydoli newid llawer ehangach a helpu cymunedau eraill i ddatblygu syniadau am fentrau lleol.
Sut y bydd Pentref SOS Actif yn fy helpu i sefydlu menter gymunedol?
Bydd Pentref SOS Actif yn cynnig nifer o adnoddau defnyddiol i bobl sy'n ystyried creu busnes cymunedol yn eu pentrefi eu hunain:
- Gwefan rhyngweithiol a chymuned ar-lein yn villagesos.org.uk
- E-gylchlythyr rheolaidd i aelodau Pentref SOS
- Llinell gymorth ar y ffôn
- Digwyddiadau sioe deithiol rhanbarthol
- Pecynnau gwybodaeth ar ffurf copi caled
- Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn gweithio gyda mudiadau i gyflwyno'r adnoddau hyn, gan gynnwys arbenigwyr cymunedol gwledig, Plunkett Foundation, sy'n cyflwyno'r llinell gyngor a'r sioeau ffordd rhanbarthol.
Cynhelir cystadleuaeth ble bydd gan bentrefi'r cyfle i gael mynediad at ariannu sbarduno i roi hwb i'w syniadau menter cymunedol eu hunain.
A yw Pentref SOS ar gyfer pobl sy'n byw mewn pentrefi gwledig yn unig?
Mae Pentref SOS wedi'i anelu at bobl sy'n byw mewn pentrefi gwledig. Mae'r Llinell Gymorth yn cael ei rhedeg gan arbenigwyr ar fentrau cymunedol gwledig - Plunkett Foundation - ac mae wedi'i chynllunio i gynnig gwybodaeth a chyngor i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Dim ond i bentrefi gwledig y mae'r gystadleuaeth Pentref SOS yn agored (gyda phoblogaeth o lai na 3,000 o bobl). Byddwn yn ystyried ceisiadau gan drefi gwledig, cyhyd â'u bod yn bodloni'r gofyniad poblogaeth. Nid yw pentrefi mewn ardaloedd trefol yn gymwys.
Serch hynny, nid yw hynny'n golygu na all pawb elwa. Er enghraifft, er bod y wefan wedi'i hanelu at fentrau cymunedol o fewn ardaloedd gwledig, bydd modd cymhwyso llawer o'r wybodaeth i fentrau cymdeithasol trefol a bydd yn ddefnyddiol iddynt hefyd.
Pa ardaloedd y mae Pentref SOS yn eu cwmpasu?
Mae Pentref SOS yn cwmpasu'r DU (Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon). Nid yw'n cynnwys Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel.
Sut y mae Pentref SOS yn cael ei ariannu?
Ariennir Pentref SOS gan y Gronfa Loteri Fawr, dosbarthwr arian achosion da mwyaf y Loteri.
I gael mwy o wybodaeth am Bentref SOS ewch i http://www.villagesos.org.uk/about
Ar wahân i'r wefan, y Llinell Gymorth a'r Gystadleuaeth, pa gymorth arall sydd ar gael?
Nod Pentref SOS yw eich cysylltu chi gyda phobl a mudiadau a all eich helpu chi i ddechrau a rhedeg busnes cymunedol llwyddiannus. Ymhlith partneriaid Pentref SOS y mae Plunkett Foundation, Co-operative UK, Acre, a Locality.
Defnyddiwch ein cronfa ddata mudiadau defnyddiol i ganfod mudiadau yn eich rhanbarth neu i chwilio yn ôl math o fenter. http://www.villagesos.org.uk/get-involved/useful-organisations
Pa bryd y mae'r Llinell Gymorth ar agor?
Bydd canolfan alwadau yn ateb galwadau 24 awr y dydd yn dechrau o'r wythnos 8 Awst. Bydd hyn yn parhau am ddau fis.
Ar ôl eich ymholiad cychwynnol, bydd arbenigwr yn cysylltu â chi, fel arfer yn ystod oriau busnes, a bydd yn ateb eich ymholiad, neu yn eich cyfeirio at arbenigwr a all eich helpu.
Ar ôl y cyfnod cychwynnol, bydd y Llinell Gymorth ar gael rhwng 9am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener.
Dim ond yn ystod oriau gwaith y bydd y Llinell Gymorth yn gallu ateb cwestiynau yn Gymraeg.
Faint mae'n costio i ffonio'r Llinell Gymorth?
Mae'r Llinell Gymorth yn rhif 0845 a chodir tâl am ei defnyddio ond ni fydd yn costio mwy na 5c o linell ddaearol a bydd y costau o ffonau symudol yn amrywio yn unol â'r tariff. Mae'n debyg y bydd yn 3.4c y funud ar amser brig, 1.7c y funud fin nos nos a 0.6c ar benwythnosau. Bydd galwadau o ffonau symudol yn amrywio ac fe allai gostio llawer mwy.
Pryd a ble y mae'r digwyddiadau sioe deithiol?
Bydd cyfanswm o 24 digwyddiad Pentref SOS ar draws y DU, gydag o leiaf un digwyddiad ym mhob gwlad yn y DU a phob un o ranbarthau Lloegr. Cynhelir tua hanner y digwyddiadau yn ystod yr hydref 2011 a'r gweddill yn ystod gwanwyn 2012. Bydd manylion y dyddiadau, y lleoliadau a rhagor o wybodaeth am gynnwys y digwyddiadau ar gael ar y wefan pan fydd wedi'i chwblhau.
Dyma'r dyddiadau sydd wedi'u cadarnhau hyd yma:
- City Hotel, Londonderry: 6 Hydref
- Watershed, Bryste: 10 Hydref
- Doncaster Trades Club, Doncaster: 19 Hydref
- Cavendish Conference Centre, Llundain: 25 Hydref
- Edan Court Theatre, Inverness: 28 Hydref
- Galeri Caernarfon, Caernarfon: 8 Tachwedd
Bydd y rhai yn bresennol yn clywed gan siaradwyr ysbrydoledig ar fentrau cymunedol a chymdeithasol gwledig, ac yn derbyn hyfforddiant am ddim, ynghyd â chyngor gwych y gallant ei gymhwyso i'w menter pentref.
Sut ydw i'n cofrestru i fynychu digwyddiadau Pentref SOS?
Gall aelodau Pentref SOS archebu lle yn y digwyddiadau hyn trwy'r wefan hon. Bydd aelodau yn cael eu hysbysu trwy e-bost ac yna trwy'r wefan hon pan fydd y tudalennau cofrestru ar agor.
Gall aelodau archebu lle trwy'r Llinell Gymorth ar 0845 434 9123 hefyd.
Os nad ydych chi'n aelod o Bentref SOS yn barod, cliciwch yma i ymuno.
A oes arian ar gael gan Bentref SOS?
Oes. Mae Cystadleuaeth Pentref SOS, sy'n agored i aelodau Pentref SOS. Os nad ydych chi eisoes wedi cofrestru, gallwch ymuno yma.
Sut y gall fy mhentref dderbyn arian fel y rheini ar y gyfres deledu?
Rydym yn rhedeg y Gystadleuaeth Pentref SOS ar gyfer pentrefi fel eich un chi a byddwn yn gwneud ryw 250 o ddyfarniadau rhwng £10,000 a £30,000 i sbarduno busnesau cymunedol. Mae manylion llawn ar y dudalen Cystadleuaeth Pentref SOS.
A yw'r wybodaeth ar gael mewn ieithoedd eraill?
Bydd fersiwn iaith Gymraeg o'r wefan Pentref SOS a dogfennau cysylltiedig ar gael cyn bo hir. Gall cyfieithiadau Gaeleg fod ar gael yn ôl yr angen.
A yw'r adnoddau gwybodaeth ar gael ar ffurfiau eraill?
Os ffoniwch y Llinell Gymorth ar 0845 434 9123 gallwch ofyn am adnoddau trwy e-bost a'r post, ynghyd ag ieithoedd cymunedol. Rydym yn gweithio'n galed i gyflwyno gwybodaeth i bawb sy'n ymweld â'r safle yn y ffordd fwyaf hygyrch posibl. Os ydych chi'n profi anawsterau wrth ddarllen y geiriau ar ein gwefan, gallwch wrando arnynt yn lle hynny trwy BrowseAloud.
A allwch chi bostio gwybodaeth ataf i?
Os yw'n anodd llwytho gwybodaeth i lawr o'r wefan hon, er enghraifft os mai cyfyngedig yw'r ystod band rhyngrwyd yn eich pentref, gallwch ofyn am y wybodaeth drwy'r post.
Mae llawer o'r adnoddau ar ein gwefan ar gael ar ffurf papur a gellir gofyn amdanynt trwy linell gymorth Pentref SOS 0845 434 9123.
Fe wnaethoch chi ddarparu arbenigwyr busnes - Eiriolwyr Pentref - ar gyfer y prosiectau Pentref SOS a ymddangosodd yn y gyfres deledu. Pam nad ydych chi'n darparu cefnogaeth arbenigwyr busnes ar gyfer enillwyr y gystadleuaeth?
Mae'r prosiectau Pentref SOS a gafodd eu paru ag Eiriolwyr Pentref yn rhan o brofiad unigryw a rhaglen grant ar wahân.
Bydd y prosiectau a dderbyniodd ddyfarniadau trwy'r Gystadleuaeth Pentref SOS yn cael eu cefnogi trwy adnoddau eraill, gan gynnwys y wefan, digwyddiadau a Llinell Gymorth sy'n cael ei rhedeg gan arbenigwyr menter cymunedol, Sefydliad Plunkett.
Y nod yw adeiladu cymuned Pentref SOS ar-lein ble bydd prosiectau yn gallu rhannu arbenigedd, cyngor a chefnogaeth gyda'i gilydd.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod y prosiectau gwreiddiol ar raddfa llawer yn fwy, gan iddynt dderbyn mwy na £400,000. Serch hynny, bydd y Gystadleuaeth Pentref SOS yn caniatáu i lawer yn fwy o brosiectau elwa na'r hyn y gallem fod wedi'u cefnogi trwy eiriolwyr unigol.
Beth yw'r Gystadleuaeth Pentref SOS?
Mae gan y Gystadleuaeth Pentref SOS gwerth £5m o ddyfarniadau i'w dosbarthu i'r syniadau gorau am fentrau cymunedol arloesol a chyffrous a fydd yn gwneud gwahaniaeth parhaus o fewn cymunedau pentrefi gwledig.
Bydd y gystadleuaeth yn annog pobl sydd wedi'u hysbrydoli gan y pentrefi Pentref SOS gwreiddiol, gan gynnwys y rhieni a ddangosir ar y gyfres deledu BBC One, i ddechrau menter wedi'i rhedeg gan y gymuned yn eu pentref eu hunain.
Bydd y dyfarniadau rhwng £10,000 a £30,000 ar gyfer cymysgedd o gyfalaf a refeniw (hyd at £20,000 ar gael ar gyfer ariannu cyfalaf) ar gyfer hyd at 300 o bentrefi mentrus.
Bydd disgwyl bod yr ymgeiswyr wedi defnyddio adnoddau Pentref SOS, gan gynnwys y gymuned ar-lein a'r Llinell Gymorth. Bydd hyn yn helpu i'w rhoi ar y trywydd cywir a sicrhau eu llwyddiant a'u cynaladwyedd hirdymor.
Fe allech chi dderbyn rhwng £10,000 a £30,000 i'ch helpu i sbarduno eich prosiect. Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn buddsoddi £5m ac yn disgwyl ariannu rhwng 250 a 300 o brosiectau ar draws y DU.
Pwy all ymgeisio?
Mae rhestr lawn o'r meini prawf cymhwyster ar gael yma.
I grynhoi:
- Rhaid i'ch prosiect fod yn fenter gymunedol
- ni fyddwn yn rhoi arian i fusnesau redeg er elw personol neu i unigolion neu fasnachwyr unig;
- gall grwpiau anffurfiol neu newydd ymgeisio ond bydd yn rhaid iddynt gael cyfansoddiad a chyfrif banc cyn y gallwn dalu'r arian i chi;
- nid yw cyrff cyhoeddus yn gymwys (gan gynnwys cynghorau plwyf yn Lloegr, Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru, a Chynghorau Cymuned yn yr Alban).
- Rhaid bod gan eich pentref neu gymuned boblogaeth sy'n llai na 3,000 o bobl a'u bod mewn ardal wledig
- Dim ond un cais y byddwn yn ei dderbyn fesul pentref
- Dim ond rhai costau cymwys y byddwn yn eu hariannu
Sut y gallaf i ymgeisio?
Gallwch ymgeisio yn y gystadleuaeth trwy lanw'r ffurflen gais ar wefan Pentref SOS. Gellir gofyn am ffurflenni trwy'r Llinell Gymorth ar 0845 434 9123 hefyd.
Bydd y ffurflen yn gofyn am fanylion cyswllt a chynnig byr o'ch syniad.
Rydym yn disgwyl y bydd lefel uchel o ddiddordeb yn y gystadleuaeth felly er mwyn rhoi'r cyfle gorau i'ch cymuned bydd angen i chi dreulio peth amser yn datblygu eich syniad.
Bydd hyn yn cynnwys ymchwilio i'r syniad a chysylltu â'ch cymuned. Darperir cefnogaeth i'ch helpu i ddatblygu eich syniad ar y wefan a thrwy Linell Gymorth Pentref SOS ar 0845 434 9123.
Sut y byddwch chi'n penderfynu a yw'n pentref yn bodloni'r meini prawf poblogaeth a gwledig?
Mae pentrefi yn y DU yn dod ar sawl ffurf a maint, gyda gwahanol nodweddion ac asedau. At ddiben y gystadleuaeth hon, bwriadwn gefnogi prosiectau mewn pentrefi a threfi gwledig sydd â phoblogaeth o hyd at 3,000 o bobl (ar sail data cyfrifiad 2001).
Nid yw pentrefi o fewn ardaloedd trefol, megis y rheini o fewn bwrdeistrefi Llundain, yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon. Wrth benderfynu ar natur wledig eich ardal, byddwn yn ystyried ystod o nodweddion gan gynnwys Diffiniad Gwledig/Trefol gan yr awdurdod ystadegau perthnasol.
Mae gwybodaeth ystadegol benodol am eich ardal ar gael:
Yng Nghymru a Lloegr o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol: http://www.neighbourhood.statistics.gov.uk
Yn yr Alban, o safle Neighbourhood Statistics Llywodraeth yr Alban: http://www.sns.gov.uk
Yng Ngogledd Iwerddon, gan Wasanaeth Gwybodaeth Cymdogaeth Gogledd Iwerddon: http://www.ninis.nisra.gov.uk
Pa bryd y bydd y gystadleuaeth yn agor?
Disgwylir i'r gystadleuaeth agor ar 24 Awst.
Bydd y ffurflenni ymgeisio ar gael ar y wefan hon, neu trwy wneud cais trwy'r Llinell Gymorth ar 0845 434 9123. Bydd gwahoddiad i lwytho'r ffurflen i lawr o'r wefan yn cael ei anfon at aelodau Pentref SOS. Os nad ydych chi'n aelod yn barod, cliciwch yma i ymuno â Phentref SOS.
Pa bryd bydd y gystadleuaeth yn cau?
Rhaid i chi lanw a dychwelyd eich ffurflen ymgeisio erbyn 5pm Ddydd Iau 6 Hydref 2011.
A allwch chi esbonio'r broses gystadlu yn fanylach?
Mae'n broses dau gam
- Cam Cynnig: Yma byddwn yn gofyn i chi beth yw'ch syniad, sut ydych chi'n gwybod bod angen ar ei gyfer a sut yr ydych chi wedi ymgynghori gyda'ch cymuned hyd yma. Byddwn yn defnyddio'r ffurflenni cynnig i benderfynu pa brosiectau i'w gwahodd i'r ail gyfnod.
- Cam Ymgeisio: Bydd tua 500 o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno ffurflen ymgeisio. Bydd gennych ryw dri mis i wneud hyn. Byddwn yn gofyn cwestiynau manylach i chi am y prosiect, ei gyllideb a sut y bydd yn cael ei rheoli.
A all grwpiau eglwysi bach ymgeisio?
Gall grwpiau eglwys bach ymgeisio i'r Gystadleuaeth Pentref SOS, mewn ffordd debyg i fudiadau cymunedol a grwpiau anffurfiol eraill. Serch hynny, bydd angen iddynt gael y pwerau i sefydlu ymddiriedolaeth pentref i dderbyn y dyfarniad grant ar ran eu cymuned.
Er y byddwn yn ystyried ceisiadau gan fudiadau crefyddol, ni fyddwn yn ariannu gweithgareddau crefyddol. Mae hyn yn golygu y byddem yn disgwyl i'r fenter gynnig budd i'r gymuned ehangach a pheidio â darparu gwasanaethau neu weithgareddau crefyddol.
A all cynghorau plwyf, tref a chymuned ymgeisio? Pam?
Na. Mae'r rhaglen hon wedi'i thargedu at fudiadau'r sector gwirfoddol a chymunedol, ac yn fwy penodol mentrau cymdeithasol a chymunedol.
Serch hynny, rydym yn cydnabod y rôl y mae'r cynghorau hyn yn eu chwarae o fewn bywyd lleol ac wrth gynllunio a byddem yn disgwyl i brosiectau gael cefnogaeth y cyrff hyn os yw'n briodol. Nid oes cyfyngiad ar aelodau'r cyrff hyn yn rhan o'r mudiad sy'n rhedeg y prosiect cymunedol.
A all un pentref ymgeisio mwy nag unwaith?
Na. Mae uchafswm o un cais fesul pentref.
Os byddwn yn derbyn mwy nag un cais gan eich pentref byddwn yn gofyn i'r prif gysylltiadau o bob un drafod pa brosiect ddylai fynd trwodd (neu efallai y byddwch chi'n gallu uno'r syniadau yn un prosiect). Os na allwch chi gytuno yna mae'n bosibl y byddwn yn gwrthod y ddau gais, gan fod yn rhaid i chi allu dangos cefnogaeth eang i'ch prosiect ymhlith y rheini sy'n byw yn eich pentref.
Hoffem ymgeisio am brosiect a fydd yn gweithio ar draws nifer o gymunedau, a allwn ni gystadlu?
Gallwch. Er ein bod yn disgwyl mai un pentref fydd y prif ymgeisydd yn bennaf, rydym yn cydnabod y gallai rhai prosiectau weithio ar draws ffiniau pentrefi. Yn yr achosion hyn bydd angen i ni weld tystiolaeth gref o ymgynghori ymhlith yr holl gymunedau dan sylw.
A oes yn rhaid i'r prosiect fod yn brosiect newydd? Rydym ni'n fudiad sy'n bodoli eisoes ac yn edrych i ehangu - a fyddem ni'n gymwys?
Rydym eisiau ariannu syniadau mentrus nad ydynt wedi dechrau. Efallai bod gennych y syniad hwn ers sbel, wedi cynnal trafodaethau yn eich cymuned ac wedi dechrau cynllunio eich syniad ond nid yw'r gwaith ar gyflwyno'r prosiect wedi dechrau, ni fyddai hyn yn ein hatal ni rhag eich ariannu.
Byddem hefyd yn gallu ariannu mudiad cyfredol i ddatblygu prosiect newydd ar yr amod ei fod yn wahanol i'ch gweithgareddau cyfredol ac nid yn estyniad ar y gwaith yr ydych chi eisoes yn ei wneud.
Ni ddylai'r gwaith yr ydych chi'n gofyn i ni dalu amdano fod wedi'i wneud yn barod neu wedi'i roi ar gytundeb gan y byddem yn ei ystyried yn ariannu ôl-weithredol, nad yw'n gymwys.
Pa gostau na all y Gystadleuaeth Pentref SOS eu hariannu?
Ni fyddwn yn talu am:
- Eich gwaith presennol
- Costau rhedeg o ddydd i ddydd, er enghraifft eich staff presennol, biliau cyfleustodau, treth y cyngor, rhent, yswiriant, atgyweiriadau a chynnal a chadw
- Gweithgareddau cyfredol neu reolaidd, gan gynnwys y rheini y mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi'u hariannu o'r blaen
- Costau ôl-weithredol
- Unrhyw beth yr ydych yn gwario arian arno neu wedi ymrwymo i wario arian arno cyn i unrhyw ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr gael ei gadarnhau
- Prosiectau adeiladu sy'n costio mwy na £25,000 gan gynnwys TAW
- Prosiectau tir, adeiladau, adnewyddu, tirlunio neu eiddo (gan gynnwys meysydd chwarae ac adeiladau dros dro) sy'n costio mwy na £25,000 gan gynnwys TAW
- Costau codi adeilad newydd
- Eitemau neu weithgareddau eraill na fyddwn yn talu amdanynt
- Prosiectau sy'n canolbwyntio'n llwyr ar sicrhau bod cyfleusterau a gwasanaethau cyfredol yn hygyrch
- Gweithgareddau y mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i dalu amdanynt, gan gynnwys gweithgareddau a phynciau'r cwricwlwm ysgol neu a gyflwynir yn ystod amser y cwricwlwm
- Gwaddolion
- Astudiaethau dichonoldeb
- Codi arian
- Eitemau a fydd yn creu buddion ar gyfer un person yn unig
- Taliadau benthyciadau neu log
- Prosiectau â chostau cynnal a chadw uchel, oni bai y gallwch chi dalu amdanynt
- Gweithgareddau crefyddol neu wleidyddol
- Unrhyw TAW y gallwch ei hadfer gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi
Ble y gallaf i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r pentrefi sy'n ymddangos ar y gyfres deledu ar BBC One?
Mae'r 10 prosiect Pentref SOS gwreiddiol i'w gweld o fewn adran Syniadau Da y wefan hon.
Mae gwybodaeth fanwl am y busnes, gan gynnwys cyfleusterau, manylion cyswllt ac oriau agor i'w gweld ar wefan swyddogol y pentrefi. Mae'r cyfeiriad a chysylltiadau cyfyngau cymdeithasol ar gyfer pob menter i'w gweld ar eu tudalennau unigol. <cyswllt at astudiaethau achos>
Gallwch hefyd gysylltu â menter y pentref yn uniongyrchol trwy adran Cymunedau'r wefan hon.
A yw'r holl brosiectau Pentref SOS gwreiddiol wedi bod yn llwyddiannus?
Yn yr un modd â'r rhan fwyaf o fentrau mae'n cymryd amser i ddod yn gwbl gynaliadwy yn ariannol. Dim ond ar ddechrau eu siwrnai y mae'r mentrau Pentref SOS gwreiddiol, gan mai newydd agor i fusnes y maen nhw, felly mae'n rhy gynnar i farnu eu llwyddiant.
Mae pob prosiect yn gweithio'n galed i adeiladu ar lwyddiant ei flwyddyn ddiwethaf a'r sgiliau y maen nhw wedi'u datblygu.
Cynlluniwyd Pentref SOS i greu prosiectau a oedd yn gynaliadwy a bydd y gefnogaeth hon, ynghyd â chyswllt parhaus y gymuned, yn helpu i sicrhau bod dyfodol llewyrchus i'r prosiectau hyn.
A yw unrhyw un o'r prosiectau Pentref SOS gwreiddiol na fu'n llwyddiannus wrth dderbyn grant llawn wedi bod yn llwyddiannus?
Fel rhan o'r rhaglen Pentref SOS gwreiddiol, cafodd pob un o'r 28 pentref a gyrhaeddodd y cyfnod rhestr fer gynnig grant datblygu o hyd at £10,000 i ddatblygu eu cynnig busnes.
Fe alluogodd yr arian hwn i'r prosiectau na wnaethant dderbyn y grant llawn i ddatblygu eu syniadau yn sylweddol. Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi parhau i gadw mewn cysylltiad â hwy a gobeithio y byddant yn gallu elwa a chyfrannu at ymgyrch Pentref SOS Actif.
Syniadau da
Beth yw menter gymunedol?
Mae menter gymunedol yn fusnes sy'n berchen ac yn cael ei rhedeg yn llwyr gan y gymuned gyfan. Rhaid i fentrau cymunedol fod yn fusnes cynaliadwy yn ariannol. Dylai unrhyw elw a wneir o'r busnes cymunedol gael ei ail-fuddsoddi yn ôl i'r gymuned trwy brosiectau eraill.
Sut y mae cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwahanol fathau o fusnesau cymunedol?
Ar y wefan hon, fe welwch gyfres o wyth canllaw i'r mathau mwyaf cyffredin o fentrau cymunedol. Yn yr adran enghreifftiau Ysbrydoledig, gallwch ddarllen ynglŷn â straeon llwyddiant cymunedol go iawn.
Sut y mae canfod pobl â'r un diddordebau â mi?
Mae cyswllt ar waelod y dudalen Cymunedau er mwyn 'Canfod pobl â sgiliau a diddordebau eraill'. Gallwch chwilio trwy bawb sydd wedi cofrestru ar wefan Pentref SOS ar sail eu diddordebau, arbenigedd, ac ardaloedd yn y wlad ble maen nhw'n byw. Unwaith yr ydych chi yn eu tudalennau proffil, gallwch gysylltu â phob un yn uniongyrchol.
A oes unrhyw brosiectau cymunedol yn agos ataf i?
Gallwch ddefnyddio'r tudalen Cymunedau i chwilio am bentrefi a busnesau sydd eisoes wedi cofrestru.
Beth yw buddion cyfranogi yn y fforwm Pentref SOS?
Bydd Fforwm y DU yn cynnig system gefnogaeth a chyfnewidfa gwybodaeth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn menter gymunedol ac sydd eisiau rhannu eu stori. Gallwch ddefnyddio Fforwm y DU i rwydweithio, rhannu arfer gorau, trafod syniadau, gofyn cwestiynau, cael eich ysbrydoli a mynd i'r afael â materion yn eich cymuned.
Dechrau arni
Sut ydw i'n dechrau arni?
Unwaith yr ydych chi wedi meddwl am syniad, y cam cyntaf yw cysylltu â'ch cymuned. Gallwch wneud hyn trwy hysbysebu a chynnal cyfarfod cymunedol i bennu cefnogaeth a diddordeb. Ffordd arall yw dosbarthu holiadur. Am help gyda hyn, llwythwch ein templed i lawr.
Mae gennyf syniad ond nid wyf yn siŵr a fydd yn gweithio.
Na, er fe allai fod o fantais fawr os oes gan rywun y profiad hwnnw. Mae Pentref SOS eisiau eich helpu i sicrhau'r wybodaeth a'r arbenigedd y mae eu hangen arnoch i sefydlu eich busnes cymunedol. Trwy ddefnyddio'r wefan Pentref SOS, byddwch yn gallu cael mynediad at wybodaeth a chanllawiau ar sut i sefydlu busnes. Gallwch hefyd rwydweithio gyda chymunedau eraill, rhannu cyngor a gwybodaeth, a chwilio am bobl sydd â'r sgiliau y mae eu hangen arnoch.
Dechreuwch trwy ddefnyddio'r cyngor sydd ar gael ar y wefan a thrwy'r Llinell Gymorth ar 0845 434 9123. Gallwch hefyd ddefnyddio'r fforymau i ofyn i eraill am help neu gyngor.
Hanfodion busnes
Ble gallaf i gael rhagor o wybodaeth am gyngor ariannu cyffredinol?
Mae gwefan Pentref SOS yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth am gyllid a chyfleoedd ariannu. <http://www.villagesos.org.uk/get-involved/business-essentials/finance>
Ar ôl i chi ddefnyddio ein hadnoddau ar-lein, lle da i ddechrau yw trwy siarad â'ch
Cyngor Lleol{http://www.direct.gov.uk/en/Dl1/Directories/Localcouncils/index.htm, a chael mynediad at gyfres Simply Series, Co-operatives UK ar gyllid, http://www.uk.coop/simplyfinance neu bori trwy'r Rural Community Action Network (RCAN) www.acre.org.uk/about-rcan.
Gallwch hefyd rhoi cynnig ar Funding Central http://www.fundingcentral.org.uk/, gwefan rhad ac am ddim wedi'i hariannu gan y llywodraeth, sy'n cynnig mynediad at filoedd o gyfleoedd ariannu a chyllid.
Er mwyn siarad ag arbenigwr am gyfleoedd ariannu, rhowch alwad i Linell Gymorth Pentref SOS ar 0845 434 9123.
Ble gallaf i ganfod mwy am arian y Gronfa Loteri Fawr a beth ydyw?
Bob blwyddyn mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu miliynau o bunnau'r Loteri Genedlaethol i achosion da. Mae ein harian yn mynd i grwpiau cymunedol a phrosiectau sy'n gwella iechyd, addysg a'r amgylchedd.
Meithrin eich menter
Nid oes gennyf ddiddordeb yn sefydlu busnes cymunedol ond rwyf eisiau cadw gwasanaeth ar agor. Ble gallaf i fynd?
Er bod Pentref SOS wedi'i anelu at y rheini sydd eisiau dechrau menter leol, mae hefyd yn cynnwys adran gyfan ar feithrin a chynnal busnes cymunedol. Ar ôl i chi ddefnyddio ein hadnoddau ar-lein, lle da i ddechrau yw trwy siarad â'ch Cyngor Lleol, Co-operative UK, neu ARCE.
Gall Llinell Gymorth Pentref SOS eich helpu chi hefyd. Rhowch alwad iddynt ar 0845 434 9123.
Cymorth
Sut wyf yn ymuno â'r wefan?
Ewch i'r dudalen ymuno. Hefyd ar dudalen flaen y wefan mae botwm pinc mawr ar yr ochr dde. Cliciwch ar y botwm, llanwch y ffurflen ar-lein a chytunwch â'r telerau ac amodau.
Sut ydw i'n mewngofnodi?
Os ydych chi ar dudalen flaen y wefan, mae blwch mewngofnodi melyn. Nodwch y cyfeiriad e-bost a chyfrinair y gwnaethoch chi eu defnyddio i gofrestru a chliciwch i fewngofnodi. Os ydych chi ar dudalen wahanol, mae cyswllt i'r sgrin mewngofnodi ar dop pob tudalen, yn y canol.
Sut allaf i gofrestru fy mhentref?
Unwaith yr ydych chi wedi mewngofnodi i'r wefan gallwch gofrestru eich pentref trwy ymweld â'r dudalen hon a dilyn y cyfarwyddiadau.
Ni dderbyniais e-bost yn cadarnhau ac nid wyf yn siŵr a wyf wedi cofrestru
Gwiriwch y cyfeiriad e-bost a chliciwch ar 'wedi anghofio cyfrinair'. Os nad yw'r cyfrinair yn cael ei anfon at eich cyfeiriad e-bost, ceisiwch gofrestru.
Pa mor gyflym allaf i ddisgwyl ateb i neges a anfonwyd at y wefan Pentref SOS?
Os ydych chi'n cysylltu â gwefan Pentref SOS dylech dderbyn ymateb o fewn dau ddiwrnod gwaith.
Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair. A allaf i gael un newydd?
Ewch i'r dudalen Wedi anghofio cyfrinair. Pan fyddwch chi'n ceisio mewngofnodi gyda chyfrinair anghywir, neu heb gyfrinair o gwbl, bydd neges wall yn ymddangos. Bydd yn cynnwys cyswllt sy'n darllen "a ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair?" Cliciwch ar y cyswllt hwn a dilynwch y cyfarwyddiadau i ailosod eich cyfrinair.
Beth ddylwn i wneud os wyf yn sylwi ar gynnwys amhriodol?
Os dewch ar draws gynnwys amhriodol ar y fforwm drafod, gallwch adrodd amdano wrth dîm y wefan trwy glicio ar y cyswllt adrodd am y cynnwys hwn sy'n ymddangos ar ochr dde pob cofnod. Bydd ffurflen fer yn ymddangos y bydd angen i chi ei llanw i esbonio'ch gwrthwynebiad i'r cynnwys.
Sut allaf adael sylw ar drafodaeth?
Pan fyddwch chi'n darllen ffrwd ar y fforwm gallwch ychwanegu ateb gan ddefnyddio'r blwch ychwanegu sylw ar waelod y dudalen. Mae'n rhaid eich bod wedi mewngofnodi i wneud hyn.
Sut allaf adael sylw ar y wefan?
Cysylltwch â gweinyddwr y wefan Pentref SOS.
Sut allaf i ddechrau trafodaeth ar y fforwm?
Gallwch ddechrau trafodaeth newydd ar y dudalen Fforwm y DU, y gallwch ddod o hyd iddynt gan ddefnyddio'r cyswllt ar dop unrhyw dudalen ar y wefan. Cliciwch ar y cyswllt Dechrau trafodaeth newydd ar ochr chwith y dudalen a dilyn y cyfarwyddiadau. Fel arall gallwch ddechrau trafodaeth ar dudalen pentref. Mae'n rhaid eich bod wedi mewngofnodi i ddechrau trafodaeth.
Pwy all ychwanegu digwyddiadau'r pentref, trafodaethau a phostiadau i'r blog?
Gall unrhyw un sydd wedi ymuno fel pentref ychwanegu digwyddiadau, trafodaethau a chofnodion blog at y pentref hwnnw.
Sut allaf i ychwanegu llun neu fideo at dudalen pentref?
Er mwyn ychwanegu fideos a lluniau at eich tudalen pentref, yn gyntaf ewch i'ch tudalen a chlicio ar y botwm sy'n darllen 'postio straeon, lluniau a fideos newydd'. Byddwch yn cyrraedd y dudalen creu cofnod blog. Unwaith y byddwch wedi cyrraedd, dilynwch y cyfarwyddiadau. Dim ond Gweinyddwyr Pentrefi fydd yn gallu ychwanegu delweddau at y cyflwyniad pentref.
Sut allaf i ddod yn Weinyddwr Pentref?
Os yw'ch pentref eisoes wedi cofrestru gan rywun arall ac yr hoffech chi fod yn Weinyddwr Pentref hefyd, dechreuwch drwy gysylltu â hwy. Byddant yn cael eu rhestru ar ochr dde uchaf y dudalen pentref. Cliciwch ar eu henw i weld eu proffil, yna defnyddiwch y cyswllt a ddangosir i anfon neges i ddweud eich bod yn awyddus i helpu. Pan fyddan nhw'n mewngofnodi gallant ddefnyddio'r cyswllt ar ochr dde uchaf y dudalen pentref i weld rhestr o aelodau pentref, a'ch gwneud yn weinyddwr hefyd. Nid oes cyfyngiad ar sawl gweinyddwr y gall pentref ei gael.
Beth yw rôl Gweinyddwr Pentref?
Bydd y person cyntaf i gofrestru pentref ar y wefan yn cael ei ddynodi yn Weinyddwr Pentref yn awtomatig. Gall y Gweinyddwr Pentref greu a golygu testun cyflwyniadol y pentref ac ychwanegu llun. Gall y Gweinyddwr Pentref hefyd benodi Gweinyddwyr Pentref eraill ar gyfer eu pentref.
Sut y gall cyflwyniad y pentref gael ei olygu?
Gall cyflwyniad y pentref gael ei olygu gan unrhyw weinyddwr pentref. Er mwyn gwneud hyn ymwelwch â'ch tudalen pentref a chliciwch ar y tab golygu. Gellir golygu'r testun yn y tab hwn.
Ble y mae fersiwn Gymraeg y wefan Pentref SOS?
Rydym yn bwriadu cyhoeddi fersiwn Gymraeg y safle cyn gynted â phosibl.
Pam fod angen yr holl wybodaeth broffil?
Ac eithrio eich enw, cyfeiriad e-bost a chyfrinair - y mae angen bob un ohonynt i gwblhau'r cofrestriad - mae gweddill y manylion y byddwch yn eu darparu yn ddewisol. Os byddwch yn dewis rhoi'r manylion hyn byddant yn ein helpu ni i gynnig gwasanaeth gwell trwy'r wefan. Mae'r manylion yn galluogi i chi gael eich canfod gan ddefnyddwyr eraill y safle sydd â diddordebau tebyg.
Sut ydw i'n ychwanegu llun at fy mhroffil?
Er mwyn ychwanegu at eich proffil, cliciwch ar y cyswllt Fy Nangosfwrdd ar dop y dudalen, yna cliciwch ar golygu proffil. Bydd eich proffil yn ymddangos ac yna gallwch olygu unrhyw wybodaeth yr ydych chi wedi'i rhoi i ni, gan gynnwys ychwanegu llun. Er mwyn ychwanegu llun, cliciwch ar y botwm pori er mwyn gweld system ffeiliau eich cyfrifiadur ac yna cliciwch ddwywaith ar y llun y dymunwch ei ddefnyddio. Nesaf, cliciwch ar y botwm uwchlwytho. Yn olaf, sgroliwch i lawr i waelod y dudalen a chliciwch ar y botwm cadw. Mae'n rhaid eich bod wedi mewngofnodi i wneud hyn.